Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru / Wikimedia UK appoints Wales Manager

  • July 2, 2013
Image is a portrait of Robin Owain
Robin Owain, Rheolwr Cymru / Wales Manager

To view this post in English please scroll down the page.

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi penodiad Robin Owain, ein Rheolwr cyntaf yng Nghymru.

Dechreuodd Robin ar y gwaith heddiw, a bydd yn arwain y prosiect Llwybrau Byw! Bydd hefyd yn arwain ein hymgais i ehangu’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.

Bydd ei swydd yn para am 12 mis. Dywedodd Robin: “Mae mynd i fewn – i ganol y gweithgareddau – gan ddangos i werin Cymru be allant wneud yn rhoi byz anhygoel i mi: gall bawb fod yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn addysgwr drwy gyfrwng Wicipedia, a rhoi yn ôl rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas.

“Mae bod yn rhan o Wikimedia UK a Wici Cymru (dau griw bendigedig) yn sylfaen gadarn yn fy ngwaith o gerdded y Llwybrau Byw.”

Dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK, “Mae penodiad Robin fel ein Rheolwr yng Nghymru yn rhan hanfodol o’n strategath ”outreach”. Wicipedia Cymraeg ydy’r wefan Gymraeg fwyaf boblogaidd yn y byd ac rydym yn ymfalchio ein bod yn medru cefnogi’r Gymrag.”

“Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hanner Cymro fy hun, mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn fach, ond dw i’n falch iawn fy mod yn medru cynorthwyo i’w bywiogi fel hyn, er mor fychan yw’r cyfraniad hwnnw.”

———————————————-

Wikimedia UK and Wici Cymru are delighted to announce the appointment of Robin Owain as our very first Wales Manager.

Robin will be taking a lead on our Llwybrau Byw – Living Paths Project. He will also be leading our efforts to expand both Wicipedia Cymraeg and the English language Wikipedia in Wales.

Robin began work yesterday and his post will run for 12 months. Robin said: “Getting in there – into the thick of it – to show ordinary people what they can do gives me a buzz: everyone can be a writer, a publisher, a teacher and give something good back, through Wikipedia, to society.

“Being part of Wikimedia UK and Wici Cymru (two wonderful groups of people!) is the granite foundation on which I walk the living paths.”

Jon Davies, Chief Executive of Wikimedia UK, said: “Robin’s appointment as our Wales Manager is a vital part of our outreach strategy. Wicipedia Cymraeg is the world’s most popular Welsh language website and we are proud to support the Welsh language.

“Despite being half-Welsh my knowledge of the Welsh language is far too limited. I am pleased to be doing my small bit to help it thrive.”

6 thoughts on “Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru / Wikimedia UK appoints Wales Manager”

  1. Shwmae Robin.

    Doeddwn i ddim yn siwr sut i gysylltu â chi felly gobeithio bydd y neges hon yn eich cyrraedd.

    Rwy’n helpu rhedeg grŵp yng Nghaerdydd o’r enw Geek Speak Caerdydd, sydd ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector nid-am-elw sydd eisiau dysgu sgiliau ar lein.

    Tybed os bydde diddordeb mewn rhannu manylion am eich gwaith gyda’r grŵp? Yn ddelfrydol fyddai hyn trwy fynychu un o’n cyfarfodydd misol yn y prifddinas ond opsiwn arall ydy gwneud rhywbeth ar Google Hangouts efallai.

    Rhowch wybod i fi os bydde hyn yn bosibl.

    Cofion a diolch

    Richard

  2. Annwyl Richard

    Mae hyn yn swnio’n ddiddorol iawn. Fedri di ddanfon ebost ataf i ni wneud y cysylltiad os gweli di’n dda.

    wicipediacymraeg at gmail.com

    Diolch!

    Robin

  3. Annwyl Robin,

    Tybed os gallwch chi wirio’r pwt erthygl yma rydw i newydd ei rhoi at ei gilydd am Llwybrau Byw! i’w chynnwys yn newyddlen nesaf amgylchedd.com os gwelwch yn dda? Fi sy’n gyfrifol am wefan amgylchedd.com ar rhan Cyfoeth Naturiol Cymru a maent wedi awgrymu fy mod yn cynnwys pwt am Llwybrau Byw! Byddaf yn falch iawn o glywed gennych mor fuan a phosibl os gwelwch yn dda.

    Llwybrau byw!

    Drwy gyfrwng Wici Cymru mae rhwydwaith o we-awduron wrthi’n cyfrannu at Brosiect Llwybrau Byw! sydd wedi’i sefydlu ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r prosiect yn rhoi grym yn nwylo cymunedau a busnesau lleol i nodi hanesion a ffeithiau diddorol am eu cymunedau. Y gobaith yw y bydd erthyglau am Lwybr yr Arfordir sy’n dilyn holl arfordir Cymru am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Glannau Dyfrdwy yn y gogledd i Gas-gwent yn y de yn cynyddu ar wefan Wici Cymru.

    Yn ôl Lonely Planet, 2012 mae diffyg gwybodaeth enbyd ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae defnyddwyr y Llwybr yn awchu am wybodaeth leol, ffeithiol gywir – heb unrhyw gamau gwag a mae cyfle i’r rheiny sy’n adnabod y mannau ar hyd y llwybr orau i lenwi’r bwlch gwybodaeth hyn. Mae’r Prosiect hwn yn dysgu sgiliau syml ynglŷn â sut i gyfrannu erthyglau at Wicipedia! Os oes gennych ddiddordeb, gadewch i Robin Owain wybod drwy ebost ??? ac efallai cewch gyflog o £165 y dydd a’ch costau teithio ac aros gan Lywodraeth Cymru.

    Diolch
    Sian Shakespear

  4. Annwyl Sian

    Diolch am dy ymateb – diddorol iawn!

    Awgrymaf newid ‘yn cynyddu ar wefan Wici Cymru’ i ‘yn cynyddu ar Wicipedia’.

    Dylid yn sicr newid ‘Yn ôl Lonely Planet, 2012 mae diffyg gwybodaeth enbyd ar Lwybr Arfordir Cymru.’ Enwyd Llwybr yr Arfordir yn brif fan diddorol gan Lonely Planet yn 2012.

    Mae angen dileu ‘ac efallai cewch gyflog o £165 y dydd a’ch costau teithio ac aros gan Lywodraeth Cymru.’ hefyd gan fod y prosiect bellach wedi dod i ben. Ond mae’r hyfforddi’n parhau, ac mae croeso i ti gynnwys fy ebost i os y gwnei ei sgwennu fel hyn: robin.owain at wikimedia.org.uk.

    Diolch a phob lwc!

    Robin

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *