National Library of Wales with a birthday gift to Wikipedia

  • January 15, 2015
Photo is a portrait of Jason Evans, a young man who appears to be in his late twenties.
Jason Evans, newly appointed Wikimedian in Residence at National Library of Wales

Wikimedia UK is proud to announce that the National Library of Wales has appointed a full time Wikipedian in Residence; this follows a 6-month appointment by the federal Welsh language university ‘Coleg’. The announcement comes on the day that Wikipedia celebrates its 14th birthday.

Wicipedia Cymraeg and the National Library have had a good working partnership since 2008 when they started to pilot the uploading of around 20 images of Wales’ finest photographer of his time – John Thomas. The world didn’t come to an end, and since then nearly 5,000 images have been uploaded.

The Library is one of only six legal deposit libraries in the UK and Ireland and have more than 5 million books, a million maps, 800,000 photographs and 50,000 works of art. In April 2012, the Library made a policy decision not to claim ownership of copyright in digital reproductions. This meant that the rights information attached to digital representations of works would reflect the copyright status of the original. In 2013, the Library was the winner of the Wikimedia UK ‘GLAM (Galleries, Libraries, Archives and Museums) of the Year Award’, as being ‘a reliable supporter of the Wikimedia movement aims.’

Both the Library and the Wikimedia movement have many things in common including to enrich the sum of shared knowledge available about Wales online, with a specific interest on the Welsh language Wicipedia.

Robin Owain, Wikimedia UK Manager in Wales said, ‘The Library has opened their doors, and have proven that improving access to their rich resources will benefit not only Wales but the wider world. They have been cutting edge in many ways and I look forward in consolidating our partnership in the coming months. What a great way of celebrating the 14th birthday of Wikipedia!’

Jason Evans has been appointed to the residency and he begins work on 19 January.

_____________________________________________________________

Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n Penodi Wicipediwr Preswyl llawn amser

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi penodi Wicipediwr Preswyl ar eu staff, yn llawn amser am gyfnod o flwyddyn. Mae hyn yn dilyn penodi Marc Haynes fel Wicipediwr Preswyl ychydig yn ôl yn y Coleg Cymraeg.

Ers Awst 2008, cafwyd partneriaeth anffurfiol rhwng Wicipedia a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thros y blynyddoedd sylweddolwyd mai’r un oedd eu nod: rhoi lluniau, sgans o lawysgrifau, fideos a gwybodaeth eraill am Gymru a’i diwylliant ar drwydded agored fel eu bont i’w cael ledled y byd h.y. ehangu’r mynediad i drysorau’r Llyfrgell. Yn y flwyddyn diwethaf mae’r Llyfrgell wedi rhoi tua 5,000 o hen ffotograffau ar drwydded agored Comin creu (Creative Commons).

Mae’r Wicipedia gwreiddiol yn 14 oed heddiw (15 Ionawr) ac yn mynd o nerth i nerth. Wicipedia Cymraeg (sydd bron yn 12 oed!) yw’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd gyda chyfartaledd o 2.4 miliwn o dudalennau’n cael eu hagor yn fisol. Ceir dros 280 o wicis mewn ieithoedd eraill a bydd y bartneriaeth hon rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wici Cymru yn cynnig llwyfan arall i drysorau’r genedl.

Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd Wici Cymru, ‘Rydym yn ymfalchio yn y Llyfrgell Genedlaethol am y modd mae wedi cofleidio’r byd digidol a gwybodaeth agored. Ymfalchiwn hefyd yng ngwaith mae Wikimedia UK yn ei wneud yng Nghymru.’ Yn ôl Robin Llwyd ab Owain, Rheolwr Wikimedia yng Nghymru, ‘Mae llawer o lyfrgelloedd yn wynebu problemau enbyd ledled y byd, ond yng Nghatalonia, mae’r genedl gyfan wedi sylweddoli grym Wicipedia ac yn ei defnyddio fel cefnfor fawr o wybodaeth – a llwyfan i’r wybodaeth honno. Braf ydy gweld Cymru hefyd ar flaen y gad – yn datblygu yn hytrach nac yn ffosileiddio – ac mae llawer o’r diolch i weledigaeth pobl fel yr Athro Aled Gruffydd Jones a’r Dr Dafydd Tudur.’

Bydd y Wicipediwr Preswyl, Jason Evans o Aberystwyth, sy’n llyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau yn ei waith ar 17 Ionawr.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *