Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mis un – gosod sylfaen

  • March 3, 2015
Philip Jones Griffiths
Philip Jones Griffiths

Mae’r ffocws yn ystod wythnosau cyntaf y preswyliad wedi bod ar gwrdd â thimau o wahanol adrannau yn y Llyfrgell. Mae’r ffaith fy mod wedi gweithio gyda llawer o’r staff am bron i ddeng mlynedd wedi gwneud cyflwyniadau ychydig yn haws. Fodd bynnag, roedd hyn yn bennaf yn gyfle i egluro natur y preswyliad ac i hyrwyddo ei nodau a’i amcanion. Mae’r cyfarfodydd hyn hefyd wedi meithrin syniadau ardderchog sydd wedi helpu i siapio’r cynlluniau hyd yn hyn.

Un o amcanion mawr y preswyliad yw cynnal nifer o Olygathonau ac mae cynlluniau diddorol ar y gweill yn barod. Mae’r Golygathon cyntaf, ar y 10fed o Ebrill, yn rhoi ‘ffocws’ ar Ffotograffwyr Cymreig gan gynnwys Philip Jones Griffiths, un o brif ffotograffwyr yr ugeinfed ganrif. Mae digwyddiadau’n cael eu cynllunio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Cyfraith Gymreig Ganoloesol, y Rhyfel Byd Cyntaf, y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia a Rygbi yng Nghymru. Bydd y Golygothonau’n cynnwys cyflwyniad i Wicipedia a hyfforddiant sylfaenol ar gyfer golygyddion newydd.

Bydd staff y Llyfrgell hefyd yn cymryd rhan. Yn dilyn cyflwyniadau rhagarweiniol bydd yr holl staff a gwirfoddolwyr y Llyfrgell yn cael cynnig gweithdai hyfforddi fel y gallant ddod yn olygyddion eu hunain, ac rwyf eisoes wedi siarad â nifer o bobl sy’n awyddus i ddechrau arni. Er bod staff y Llyfrgell yng nghanol proses ailstrwythuro mae’r ymateb i benodiad y Wicipediwr wedi bod yn gadarnhaol ar draws y sefydliad. Maent yn awyddus i gymryd rhan ac i gefnogi’r prosiect. Yn sgil hyn mae nifer o fentrau eisoes yn cael eu datblygu. Mae’r adran arddangosfeydd wedi cytuno i dreialu’r defnydd o godau QRpedia mewn arddangosfa fawr sydd ar y gweill, ac mae Tîm y We yn gweithio ar osod Botwm ‘Dyfynnu ar Wicipedia’ mewn i’n hadnoddau ar-lein a fydd yn cynhyrchu dyfyniad mewn Wiki-markup ar gyfer Wicipedia. Mae trafodaethau wedi dechrau gyda phartner allanol – Casgliad y Werin Cymru – am newid ei bolisi trwyddedu delweddau fel y gallai cyfraniadau yn y dyfodol gael eu llwytho i fyny i Gomin Wicimedia ac efallai’r cynllun mwyaf cyffrous yw’r bwriad i rannu tua 20,000 o ddelweddau digidol o gasgliad y Llyfrgell. Unwaith y byddwn wedi datrys rhai materion technegol dylem allu defnyddio Glam Wiki Tools i lwytho casgliadau cyfan i Gomin Wicimedia a chaniatáu i’r byd gael cipolwg o’n trysorau cudd!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *